Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd

LLEOLIAD

Mae’r darpar safle wedi’i leoli mewn coedwig fasnachol yn ne-ddwyrain Ceredigion, ger y ffin â gogledd Sir Gâr, a 13km i’r gogledd-ddwyrain o Lanbedr Pont Steffan a 3km i’r dwyrain o Landdewibrefi.

MANYLION PROSIECT

Rhagwelir y bydd y prosiect yn cynnwys rhwng 5 a 7 tyrbin ac mae ganddynt gyfanswm capasiti uchaf o 25MW gyda blaenau’r llafnau’n cyrraedd uchder o hyd at 200m. Bydd yn cysylltu â’r rhwydwaith 33kV yn Isbwerdy Llanbedr Pont Steffan. Mae’r safle yn Ardal wedi’i Hasesu gan Lywodraeth Cymru fel un addas ar gyfer datblygiad mawr ar y tir. Am ragor o wybodaeth am yr asesiad Cymru gyfan hwn, ewch i: Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.

Mae’n ddyddiau cynnar o hyd ar y prosiect gyda gwaith dichonoldeb ac arolygon eisoes ar waith. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda rhagor o wybodaeth wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

YMGYNGHORIAD CYMUNEDOL

Yn Belltown, rydym yn credu bod ymgynghori’n gynnar â chymunedau a rhanddeiliaid lleol yn allweddol i ddatblygu prosiect yn dda ac yn dryloyw. Rydym wedi ymrwymo i gynnal proses ymgysylltu gynhwysfawr a thrylwyr a byddwn yn sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cael y cyfle i roi adborth ac yn cael gwybod am gynnydd y prosiect.

Ar ôl i ni gwblhau ein harolygon cychwynnol o’r safle a datblygu’r cynnig ymhellach, byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori lle gallwch rannu’ch syniadau a’ch adborth er mwyn ein helpu i goethi’r prosiect. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a rhanddeiliaid yng nghyffiniau’r prosiect ei hun a’r llwybr mynediad arfaethedig, pan yn briodol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn y dyddiau cynnar hyn, cysylltwch â thîm y prosiect, gan gynnwys eich manylion cyswllt ŵr mwyn i ni allu ymateb yn bersonol i’ch ymholiad.

Gallwch gysylltu â thîm y prosiect yn uniongyrchol drwy e-bostio: waunmaenllwyd@belltownpower.com neu llenwch ffurflen ymholiadau yma. 

Edrychwn ymlaen at gysylltu â chi maes o law.

BUDD I’R GYMUNED A PHERCHNOGAETH GYMUNEDOL

Mae Belltown Power yn credu’n gryf y dylai prosiectau gwynt ar y tir fod o fudd i’r cymunedau sy’n eu cynnal, p’un ai yw’r prosiect yn derbyn cymhorthdal ai peidio. Bydd cymunedau sy’n lleol i Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd yn elwa drwy ein cynllun perchnogaeth gymunedol arloesol fel a ganlyn:

• Cynnig 1% o ecwiti’r prosiect i sefydliadau cymunedol lleol am ddim.
• Hawl iddynt brynu 4% arall o’r ecwiti ar bris cost unwaith y bydd y prosiect yn weithredol.
• Cynnig cymaint o berchnogaeth bellach ag y maen nhw’n dymuno’i brynu ar bris y farchnad (hyd at uchafswm cyfran o 49% o’r ecwiti)

Rydyn ni hefyd yn ymrwymo i ddarparu £5,000 y MW y flwyddyn (mynegrifol) o Fudd Cymunedol. Rydyn ni eisiau clywed eich barn ar y ffordd orau y gall Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd gefnogi eich cymuned.

ADDYSG A’R AMGYLCHEDD

Yn Belltown, rydym yn mwynhau ymgysylltu ag ysgolion lleol gyda’r bwriad o gynnig ymweliadau â’r prosiect unwaith y bydd ar waith os yw hynny’n bosibl, ynghyd â gweithgareddau ac adnoddau addysgol eraill a ddarperir drwy Raglen Addysg Belltown. Fel gyda’n holl brosiectau, byddwn yn sicrhau bod Fferm Wynt Maenllwyd yn sicrhau budd ecolegol net drwy gynllunio cynefinoedd, creu cynefinoedd a rheoli cynefinoedd yn ofalus.

Skip to content